Deddfwriaeth

Y cefndir cyfreithiol.  Beth yw’r safleoedd morol Ewropeaidd? O ble y daethant, beth yw eu pwrpas, a pham?

Y fframwaith ar gyfer gweithredu byd-eang yw Confensiwn y Cenhedloedd  Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol.  Yn Uwchgynhadledd y Ddaear yn Rio ym1992, llofnodwyd y Confensiwn Rhyngwladol ar Amrywiaeth Fiolegol gan 150 o arweinwyr llywodraethau, a oedd yn ymrwymo i sicrhau bod pob penderfyniad economaidd yn rhoi ystyriaeth lawn i unrhyw effaith amgylcheddol, ac i fabwysiadu Agenda 21, sef glasbrint ar gyfer gweithredu i sicrhau datblygu cynaliadwy byd-eang.

Ddegawd yn ddiweddarach yn 2002, yn Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy, a drefnwyd dan nawdd y Cenhedloedd Unedig yn Johannesburg, ymrwymodd y llywodraethau ymhellach i leihau cyfradd colli bioamrywiaeth yn sylweddol erbyn 2010.

Bu’r Undeb Ewropeaidd yn deddfu ac yn gweithredu’n gyson er y 1970au i ddiogelu bioamrywiaeth; a gosododd amcan iddo’i hunan o atal y golled bioamrywiaeth o fewn tiriogaeth yr UE erbyn 2010.

Mabwysiedir deddfwriaeth gan yr Undeb Ewropeaidd yn ar ffurf Cyfarwyddebau a Rheoliadau. Mae’r Cyfarwyddebau Ewropeaidd yn gosod dyletswydd ar yr aelod-wladwriaethau i weithredu darpariaethau cenedlaethol eu hunain er budd Ewrop gyfan, tra bo’r  Rheoliadau yn gweithredu polisi’r UE yn  uniongyrchol o fewn yr aelod-wladwriaethau, heb fod angen i’r gwladwriaethau unigol ddeddfu.

Seilir polisi cadwraeth natur yr Undeb Ewropeaidd ar ddau brif ddarn o ddeddfwriaeth, sef Cyfarwyddeb 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol ac anifeiliaid a phlanhigion gwyllt (y ‘Gyfarwyddeb Cynefinoedd’) ym 1992, a chyfarwyddeb gynharach o 1979, sef Cyfarwyddeb 79/409/EEC ar gadwraeth adar gwyllt (y ‘Gyfarwyddeb Adar’).

Trwy ddarpariaethau’r Cyfarwyddebau hyn diogelir rhywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion sydd o bwysigrwydd Ewropeaidd a’r cynefinoedd sy’n eu cynnal, yn enwedig trwy sefydlu rhwydwaith o Safleoedd a warchodir – sef y gyfres Natura 2000 – Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau) o dan y Gyfarwyddeb Adar.

O dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, rhaid i’r Aelod-wladwriaethau gyflwyno amrediad o fesurau gan gynnwys  gwarchod y 189 o gynefinoedd a restrir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb a’r 788 o rywogaethau a restrir yn Atodiad II, cyflawni gwyliadwriaeth o’r cynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig, a pharatoi adroddiad bob chwe blynedd ar weithrediad y Gyfarwyddeb.

O fewn y DU, trosir y Gyfarwyddeb yn gyfraith genedlaethol trwy’r Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol etc.) 2010 (y ‘Rheoliadau Cynefinoedd’).  Mae’r ACAau ac AGAau sydd ar y tir neu mewn dŵr croyw, neu mewn ardaloedd rhynglanwol, wedi eu dynodi eisoes yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau).  Cynhwysir darpariaethau arbennig yn y rheoliadau ar gyfer ardaloedd morol.  Adwaenir yr ardaloedd Natura 2000 sy’n cynnwys arwynebedd o fôr neu draeth fel Safleoedd Morol Ewropeaidd (SMEau).  Gall SME fod naill ai’n un Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC) forol neu Ardal Gwarchodaeth Arbennig  (AGA) sengl neu gyfuniad o ACAau morol ac AGAau sy’n gorgyffwrdd.

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn dynodi rhai cyrff cyhoeddus penodol yn awdurdodau perthnasol ac yn eu gwneud yn gyfrifol ar y cyd am gadwraeth a rheolaeth yr SMEau.  Fel sy’n digwydd yn y rhan fwyaf o’r SMEau eraill, mae awdurdodau perthnasol Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd yn cydweithio o fewn Grŵp Safleoedd Perthnasol y safle.  Disgrifir y gwaith a wneir gan y Grŵp yn y tudalennau ar reolaeth.

Mynnir gan y Rheoliadau bod yr asiantaethau cadwraeth natur statudol (sef, yn ein hachos ni, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, CCGC) yn nodi nodweddion cadwraeth y safle, ac yn esbonio wrth yr Awdurdodau Perthnasol eraill beth yw’r amcanion cadwraeth a pha weithgareddau a allai ddifrodi neu darfu ar nodweddion cadwraeth y safle (rheoliad 35, cyngor gan gyrff cadwraeth natur).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diffinio ‘awdurdodau cymwys’ – sef pob corff statudol neu swyddogaeth gyhoeddus sydd â phwerau cyfreithiol ar y tir neu ar y môr.  Rhaid i Awdurdodau Cymwys arfer unrhyw swyddogaethau neu bwerau sy’n berthnasol i gadwraeth forol mewn modd sy’n bodloni gofynion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.   Un o rwymedigaethau pwysicaf yr awdurdodau cymwys yw’r ddyletswydd o asesu pob cynllun neu brosiect y maent yn gyfrifol am eu caniatáu neu gydsynio iddynt, gyferbyn ‘r amcanion cadwraeth, ac ymatal rhag caniatáu neu gydsynio oni ellir dangos na fyddant yn effeithio yn anffafriol ar nodweddion y safle

Mae polisi’r llywodraeth yn mynnu bod perchnogion a meddianwyr eiddo, buddiannau lleol, grwpiau defnyddwyr a grwpiau cadwraeth yn cael eu hannog i cyfranogi yn y broses o ddatblygu’r cynllun.  Cliciwch yma i gael gwybod sut y gellwch gyfannu.