Pwysau a bygythiadau

Mae’r pwysau sy’n bygwth difrodi neu amharu ar fywyd gwyllt a chynefinoedd yn tarddu o nifer o wahanol ffynonellau.

Adwaenir nifer o weithgareddau sydd â’r potensial i greu pwysau, achosi difrod uniongyrchol i gynefinoedd, neu amharu ar fywyd gwyllt, oherwydd sŵn neu weithgareddau cyflymder uchel er enghraifft, neu trwy gystadlu am le â’r bywyd gwyllt.  Mae’r gweithgareddau y tybir eu bod yn fygythiadau real neu bosibl, ac yn galw am well rheolaeth neu ymchwil pellach, yn cynnwys y canlynol (nid mewn unrhyw drefn benodol):

  • Cloddio am agregau
  • Lefelau’r ymelwa ar bysgod cregyn ecolegol bwysig (e.e. cregyn moch, had cregyn gleision)
  • Tyfu (ransio) pysgod cregyn molysgaidd
  • Gweithfeydd peirianegol i greu a chynnal amddiffynfeydd arfordirol
  • Adfer tir
  • Gorbori
  • Casglu abwyd, yn enwedig trwy gloddio
  • Cychod pŵer cyflym (gan gynnwys badau personol)
  • Gwaredu gwastraffau a malurion
  • Gweithgarwch milwrol

Os ydych yn pryderu bod unrhyw weithgareddau eraill yn rhoi pwysau ar nodweddion y safle, neu os oes gennych dystiolaeth o bwysau neu ddifrod a achosir gan unrhyw weithgareddau, gwahoddwn chi i roi gwybod inni  Ar y llaw arall, os oes gennych dystiolaeth nad yw’r gweithgareddau a nodir yn bygwth nac yn difrodi mewn gwirionedd, rhowch wybod inni am hynny hefyd.
Yn ogystal â’r gweithgareddau dynol sy’n bygwth ac yn rhoi pwysau ar fywyd gwyllt a’u cynefinoedd, mae bygythiadau posibl eraill i gynaliadwyedd hirdymor y cynefinoedd a’r bywyd gwyllt morol.  Mae’r rhain yn fyd-eang yn ogystal â lleol, a achosir neu y dylanwedir arnynt weithiau gan weithgarwch dynol, ac yn cynnwys:

  • Codiad yn lefel y môr
  • Cywasgu arfordirol
  • Galluoedd annigonol ar gyfer rheoli pysgodfeydd
  • Digwyddiadau marwolaethau torfol molysgiaid (cocos)
  • Ansawdd dŵr a chyfoethogi gan faetholion
  • Dŵr ffo trefol
  • Gwastraff a malurion
  • Newidiadau yng nghludiant gwaddodion
  • Polisïau cynllunio byrdymor a datblygu anghynaliadwy
  • Diffyg ymwybyddiaeth, dealltwriaeth neu ddiddordeb ar ran y cyhoedd

Er bod gan lawer gweithgaredd y potensial i fygwth neu roi pwysau ar fywyd gwyllt a’u cynefinoedd, nid yw pob gweithgaredd yn gwneud hynny mewn gwirionedd.  Yr hyn sy’n penderfynu effeithiau amgylcheddol y gweithgareddau yw eu lleoliad, eu hamlder, eu dwysedd ac, efallai, pa bryd y digwyddant.
Mae’n rhaid datblygu a rheoli unrhyw weithgareddau gan roi ystyriaeth briodol i’r SME, a chyfrannu at alluogi pobl a bywyd gwyllt i gyd-fyw mewn cytgord.  Fodd bynnag, er mwyn penderfynu pa weithgareddau yn union sy’n galw am eu rheoli yn well (a pha rai nad ydynt), mae arnom angen rhagor o wybodaeth am ddosbarthiad, amseriad a dwysedd yr holl weithgareddau, ond yn fwyaf arbennig:

  • Pob math o bysgota masnachol
  • Genweirio
  • Casglu abwyd o bob math
  • Gyrru cychod cyflymder uchel a chwaraeon dŵr
  • Chwaraeon moduro oddi ar y ffordd mewn mannau rhynglanwol
  • Saethu adar gwyllt yn anrheoledig
  • Gwaredu sbwriel yn anrheoledig (tipio anghyfreithlon)
  • Datblygu’r blaendraeth yn anrheoledig
  • Amddiffyn yr arfordir ac adfer tir yn anrheoledig
  • Gwaith cynnal ar gychod (gan gynnwys glanhau a phaentio ag atalydd tyfiant)
  • Gwylio bywyd gwyllt morol / ‘ecodwristiaeth’
  • Ymchwil gwyddonol
  • Gweithgarwch lles bywyd morol