Awdurdodau perthnasol

Yn y Rheoliadau Cynefinoedd pennir y bydd dau grŵp o awdurdodau ac unigolion yn gyfrifol am gyflenwi’r rheolaeth angenrheidiol mewn Safle Morol Ewropeaidd, sef awdurdodau perthnasol ac awdurdodau cymwys.  Yr awdurdodau cymwys yw’r rheini sy’n rhoi unrhyw fath o ganiatâd neu drwydded ar gyfer gweithgareddau neu ddatblygiadau.  Yr awdurdodau perthnasol yw’r rheini sy’n ymwneud â rhyw fath o swyddogaeth reoleiddio morol berthnasol ac felly yn ymwneud yn uniongyrchol â rheolaeth safle morol.

Mae’r Rheoliadau yn rhoi cyfrifoldeb penodol am reoli SME i awdurdodau perthnasol, ac yn argymell y dylent gydweithio â’i gilydd wrth wneud hynny.  Mae’r awdurdodau perthnasol ar gyfer yr SME hwn yn cydweithio fewn Grŵp Awdurdodau Perthnasol (GAP) Bae ac Aberoedd Caerfyrddin a’r aelodau yw:

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (ddisodli Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar 1 Ebrill 2013)
  • Cyngor Sir Benfro
  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor a Dinas Abertawe
  • Dŵr Cymru
  • Awdurdod Harbwr Saundersfoot
  • Gwasanaeth Goleudai Trinity House

Cadeirir y Grŵp gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.  Mae’r GAP yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion mewn perthynas â’r Safle Morol Ewropeaidd. Mae cylch gorchwyl y GAP ar gael yma a’r Memorandwm Dealltwriaeth ar gyfer cydweithio rhwng yr awdurdodau yma.

I gael gweld cofnodion cyfarfodydd y GAP (Rhagfyr 2005 – presennol) cliciwch yma.