Pwrpas a gweledigaeth

Pwrpas a gweledigaeth y rheoli

Yr weledigaeth ar gyfer Safle Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin yw amgylchedd morol o ansawdd uchel, lle mae cynefinoedd a rhywogaethau’r safle mewn cystal neu well cyflwr na phan ddewiswyd y safle, lle mae gweithgareddau dynol yn cydfodoli mewn cytgord â chynefinoedd a rhywogaethau’r safle, a lle y defnyddir yr amgylchedd morol  yn gynaliadwy o fewn yr SME.

Nid oes unrhyw fwriad yn gynwysedig yn y Gyfarwyddeb Cynefinoedd i wahardd gweithgareddau dynol (masnachol na hamdden) o’r safleoedd  Natura 2000. Y nod yw sicrhau yr ymgymerir â’r gweithgareddau hynny mewn ffyrdd nad ydynt yn fygythiad i’r nodweddion y dynodwyd y safle ar eu cyfer.

Pwrpas y cynllun rheoli yw pennu fframwaith, y gellir rheoli gweithgareddau oddi mewn iddo yn SME Bae ac Aberoedd Caerfyrddin, mewn ffyrdd sy’n gydnaws  â chyrraedd yr amcanion cadwraeth natur. Y prif fwriad, felly, yw cynnig arweiniad a chymorth i’r awdurdodau perthnasol yn eu gwaith o wneud penderfyniadau a rheoli.  Nid cyfres o reoliadau ar gyfer rheoli’r safle yw’r cynllun rheoli, ac ni ddylid cymysgu rhyngddynt ac unrhyw reoliadau.

Yr amcanion strategol

  • Bodloni gofynion Cyfarwyddeb Cynefinoedd a Chyfarwyddeb Adar yr UE, trwy sicrhau a chynnal nodweddion y safle mewn statws cadwraeth ffafriol dros dymor hir; eu diogelu rhag difrod neu ymyrraeth sylweddol, a diogelu strwythurau a swyddogaethau cynefinoedd naturiol dynamig.
  • Bodloni’r rhwymedigaethau a benni yn Rheoliadau Cynefinoedd y DU.
  • Gwneud cyfraniad hirdymor priodol i statws cadwraeth ffafriol y gyfres o safleoedd Natura 2000 a chynefinoedd a rhywogaethau o bwysigrwydd cadwraethol Ewropeaidd.
  • Cynorthwyo awdurdodau perthnasol i adolygu rheolaeth yr SME a nodi addasiadau neu newidiadau yn rheolaeth gyfredol y safle, a allai fod yn ofynnol i sicrhau y cyrhaeddir yr amcanion cadwraeth.
  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o fioamrywiaeth a gwerth cadwraethol y safle.
  • Integreiddio â strategaethau perthnasol eraill ar gyfer diogelu bioamrywiaeth.
  • Integreiddio â chynlluniau a strategaethau perthnasol sectoraidd, gofodol a rhanbarthol mor bell â’u bod yn ymwneud â’r safle, a dylanwadu’n gadarnhaol ar eu cynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae’r awdurdodau perthnasol wedi ymrwymo i gynllun rheoli:

  • a fydd yn ceisio sicrhau’r rheolaeth sy’n angenrheidiol trwy gydweithredu gwirfoddol a phartneriaeth pan fo’n bosibl, yn hytrach na thrwy reoleiddio
  • a fydd yn broses barhaus i gynorthwyo’r awdurdodau perthnasol i wneud penderfyniadau ac i oleuo’r awdurdodau cymwys
  • a fydd yn esblygu ac yn ymaddasu’n gyson er mwyn amgyffred newidiadau mewn gweithgareddau a’r wybodaeth amdanynt, pynciau cyfoes, gwybodaeth wyddonol, arferion rheoli a rhwymedigaethau cyfreithiol.