Y buddion a ddaw o’r SME

Bydd rheolaeth integredig a chynhwysol ardal mor fawr â SME Bae ac Aberoedd Caerfyrddin yn cymryd llawer o amser ac ymdrech.  Fodd bynnag, gall y buddion amgylcheddol a chymdeithasol a ddaw o hynny fod yn aruthrol – ac o integreiddio rheolaeth o’r fath yn llwyddiannus â gweithgareddau a datblygiadau economaidd, gellir gyfrannu at sicrhau eu cynaliadwyedd amgylcheddol a hwyrach ychwanegu at eu gwerth.

Mae’r buddion posibl yn niferus ac amrywiol:

  • amgylchedd o ansawdd uchel, sy’n werthfawr yn gymdeithasol ac economaidd
  • cyrraedd targedau Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghynllun Datblygu Cynaliadwy Cymru, Strategaeth Amgylcheddol Cymru, Cymru: Gwlad Well, a …
  • cyrraedd targedau ar gyfer cynaliadwyedd, iechyd, mynediad y cyhoedd, hamddena, rheoli’r traeth(cynnal yr amddiffynfeydd arfordirol naturiol)
  • datblygu pysgodfeydd cynaliadwy
  • amgylchedd sy’n denu ac yn annog rhyddhau cyllid strwythurol Ewropeaidd
  • cynllunio a chyflenwi Rheolaeth Integredig ar Barthau Arfordirol (RhIBA)
  • cyfleoedd addysgol ar gyfer y targedau datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth
  • cynhyrchu gwybodaeth ar gyfer rheoli cynaliadwy
  • cynnal a gwella bioamrywiaeth forol
  • cydnabod arwyddocâd Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
  • gwella’r ymwybyddiaeth leol o’r amgylchedd morol yn y bae a’r aberoedd
  • cyrraedd targedau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU

ac yn olaf, ond nid yn lleiaf o bell ffordd:

  • gwella’r ymwybyddiaeth leol o’r amgylchedd morol yn y bae a’r aberoedd

>

Whiteford Beach, Gower  (c) Blaise Bullimore >>>>>>>>>