ACA Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
Cynigiwyd ACA Bae ac Aberoedd Caerfyrddin i’r Undeb Ewropeaidd am y tro cyntaf ym Mehefin 1995, fel endid llai, sef Ardal Cadwraeth Arbennig Cilfach Tywyn: Morfa Heli ac Aber. Â Yn dilyn adolygiad gan yr UE o gynigion yr aelod-wladwriaethau, addasodd y DU ei rhestr safleoedd wreiddiol, gan ychwanegu nodweddion ac ehangu rhai safleoedd. Â Yn rhan o’r broses honno, ehangwyd y safle hwn yn sylweddol, ychwanegwyd nifer o nodweddion cynefin a rhywogaeth, a newidiwyd yr enw i Fae ac Aberoedd Caerfyrddin.
Dynodwyd yr ACA yn ffurfiol yn Rhagfyr 2004 ar y sail ei bod yn cynnwys enghreifftiau Ewropeaidd rhagorol o chwech o’r nodweddion cadwraeth cynefin, a phump o’r nodweddion rhywogaeth o ddiddordeb a restrwyd yn y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.
Cynefinoedd
- Aberoedd
- Cilfachau a baeau eang a bas
- Morfeydd heli Iwerydd
- Llyrlys (Salicornia) ac unflwyddiaid eraill sy’n cytrefu mewn llaid a thywod
- Gwastadeddau llaid a thywod nas gorchuddir gan ddŵr y môr pan fo ar drai
- Cefnau tywod a orchuddir gan ychydig o ddŵr y môr trwy gydol yr amser
Rhywogaethau
- Herlynod Alosa alosa (isod dde uchaf)
- Gwangod Alosa fallax (isod chwith uchaf)
- Llysywod pendoll yr afon Lampetra fluviatilis (islaw gwaelod ar y chwith)
- Pen llysywen bendoll y môr Petromyzon marinus (islaw gwaelod ar y dde)
- Dyfrgwn Lutra lutra
I weld map sy’n dangos crynodeb dynodol o ddosbarthiad y nodweddion cynefin, cliciwch yma (1Mb pdf).
Morfa heli, moryd afon Llwchwr >>>>>>>>>