Cynlluniau a phrosiectau

Cynlluniau a phrosiectau, caniatadau a chydsyniadau

Mae Erthygl 6.3 o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn pennu bod rhaid i unrhyw ‘gynllun neu brosiect’ nad yw’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’r safle nac yn angenrheidiol ar gyfer ei reolaeth, ond sy’n debygol o effeithio’n sylweddol ar y safle, naill ai ar ei ben ei hunan neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, gael ei asesu’n briodol yng nghyd-destun amcanion cadwraeth y safle.  Yng ngoleuni casgliadau’r asesiad o’r goblygiadau i’r safle, ac yn ddarostyngedig i rai darpariaethau arbennig, ni chaiff yr awdurdodau cymwys cenedlaethol gydsynio i’r cynllun neu’r prosiect cyn sicrhau yn gyntaf NA fydd yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle dan sylw, a phan fo’n briodol, cyn canfod barn y cyhoedd yn gyffredinol.

Rhoddir arweiniad manwl ar sut i asesu cnlluniau a phrosiectau yn y canllawiau rheoli mewn perthynas â Chyfarwyddeb Cynefinoedd y Comisiwn Ewropeaidd, sef Managing Natura 2000 sites: The provisions of Article 6 of the ‘Habitats’ Directive 92/43/EEC ac Assessment of Plans and Projects Significantly Affecting Natura 2000 sites, sydd ar gael yma.