Llywodraeth Cymru adolygiad pellach o’r eithriadau i’r rheoliadau ynghylch uchafswm hyd cychod pysgota yn y parth 0-6 milltir forol

Mae rheoliadau sy’n gwahardd cychod o faint neu gapasiti penodol rhag pysgota yn y parth 0-6 milltir forol o amgylch Cymru.  Ar hyn o bryd, mae eithriadau i’r darpariaethau hynny sy’n caniatáu i gychod dros y cyfyngiadau maint neu gapasiti penodol barhau i bysgota yn yr ardaloedd hynny.

Cynhaliwyd ymgynghoriad yn 2011/12 ynghylch y cynigion i ddileu hawliau mynediad hanesyddol. Deilliodd nifer o faterion cymhleth o’r ymatebion a gafwyd a’r dadansoddiad dilynol ohonynt.  O ganlyniad, mae’r Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd wedi penderfynu bod angen cyfnod pellach o ymgynghori er mwyn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru’r ddealltwriaeth lawnaf bosibl o’r sefyllfa bresennol ac effeithiau posibl dileu’r hawliau mynediad hanesyddol hyn.

Mwy o wybodaeth a’r ddogfen ymgynghori ar gael yma.

Comments are closed.