SME Bae ac Aberoedd Caerfyrddin

Y Safle Morol Ewropeaidd

Lleolir Safle Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin rhwng penrhynion Gŵyr a Sir Benfro yn ne-orllewin Cymru.  Mae’n ymestyn o Ddinbych-y-pysgod yn y gorllewin, i ffwrdd o’r lan heibio i Ynys BÅ·r, bron cyn belled â Thrwyn Oxwich yn y dwyrain, gan gynnwys Cilfach Tywyn / Aber Llwchwr ac aberoedd y Tair Afon – Taf, Tywi a Gwendraeth.

Cwmpesir tri o safleoedd Natura 2000 o fewn yr SME – Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC) Bae Caerfyrddin, Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Bae Caerfyrddin ac AGA Cilfach Tywyn.

Yr un ffiniau â’r SME sydd gan ACA Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd, tra bo AGAau Cilfach Tywyn a Bae Caerfyrddin wedi eu cwmpasu yn gyfan gwbl o fewn ffiniau’r SME.

I ffwrdd o’r lan, mae terfynau’r SME/ ACA yn dilyn llinellau hydred a lledred, o’r gogledd i’r de ac o’r gorllewin i’r dwyrain, i’w gwneud yn syml i’w deall ar fap ac yn hawdd i’w hadnabod tra’n defnyddio cymhorthion mordwyo.

Ar ochr y tir, mae’r ffin yn dilyn y marc penllanw o amgylch y rhan fwyaf o’r safle, ac eithrio yng ngorllewin a de-orllewin Gŵyr, lle mae’n cwrdd ag ACA dirol ar y marc distyll.

Pennwyd terfynau’r ACAau a’r AGAau er mwyn amgylchynu’r nodweddion cadwraeth y dewiswyd y safleoedd ar eu cyfer.  Nid yw’r ffiniau’n cynrychioli union gyrhaeddiad unrhyw un o’r nodweddion, na dosbarthiad unrhyw rywogaeth ar adeg benodol.  Mae’r nodweddion cynefin ar wasgar ledled y safleoedd: nid oes yr un cynefin yn meddiannu’r holl safle, ac y mae’r cynefinoedd yn gorgyffwrdd mewn mannau. Mae’r nodweddion rhywogaeth yn symud o gwmpas, o fewn a thu allan i’r safleoedd.

Disgrifir y safleoedd Natura 2000 yn fanylach yma: