AGA Cilfach Tywyn

Mae’r cymhlyg aberol eang yng Nghilfach Tywyn yn cynnwys eangderau o dywod rhynglanwol a gwastadeddau llaid, ynghyd â’r arwynebedd di-dor mwyaf yng Nghymru o forfa heli (22 cilometr sgwâr).  Mae’r Gilfach yn rheolaidd yn cynnal niferoedd rhyngwladol bwysig o adar gwlyptir a hirgoes sy’n gaeafu ac yn bwydo ar y morfeydd heli a’r rhannau rhynglanwol.

Dynodwyd AGA Cilfach Tywyn ym1992 ar gyfer yr adar hirgoes pibydd yr aber, Calidris canutus; y bioden fôr, Haematopus ostralegus; y pibydd coesgoch, Tringa totanus; yr hwyaden lostfain, Anas acuta a’r holl gynulleidfa o adar gwlyptir sydd hefyd yn cynnwys yr aelodau hirgoes pibydd y mawn, y gylfinir a’r cwtiad llwyd, yn ogystal â hwyaid yr eithin, y chwiwell a’r hwyaden llydanbig.

Mae’r crynodeb gwybodaeth  am y safle a ddarparwyd i’r Comisiwn Ewropeaidd gan y DU ar gael ar wefan y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur yma a’r daflen data yma.

Dynodwyd y safle hefyd yn wlyptir Ramsar o bwysigrwydd rhyngwladol, o dan y Confensiwn  ar Wlyptiroedd 1971, ar gyfer yr un rhywogaethau o adar.  Er hynny, mae’r dynodiad gwlyptir hefyd  yn rhestru rhywogaethau o blanhigion, infertebrata, pysgod a rhywogaethau pellach o adar.

Gellir cael y taflenni gwybodaeth Ramsar ar gyfer Cilfach Tywyn trwy gyrchu’r  gronfa ddata Ramsar yma a mewnosod enw’r safle.  Mae gwybodaeth bellach am y confensiwn Ramsar a safleoedd Ramsar y DU ar gael yma.