AGA Bae Caerfyrddin

AGA Bae Caerfyrddin oedd yr AGA forol gyflawn gyntaf yn y DU, a’r unig un a ddynodwyd hyd yma.   Mae’n safle un-nodwedd, a ddynodwyd ym Mehefin 2003 ar gyfer y fôr-hwyaden ddu, Melanitta nigra.

Mae dosbarthiad y fôr-hwyaden hon yn fyd-eang, yn estyn o Wlad yr Iâ, Prydain a gwledydd Llychlyn i’r dwyrain ar draws Siberia a Rwsia arctig hyd at arfordir Iwerydd yng Ngogledd America.  Yn Ewrop, mae’r hwyaid hyn yn mudo o’u safleoedd nythu yng Ngwlad yr Iâ, Llychlyn a gogledd Rwsia, mor bell â phenrhyn Iberia, ac weithiau i ogledd Affrica, lle mae heidiau ohonynt yn treulio’r gaeaf ar ddyfroedd bas a chysgodol.  Defnyddir Bae Caerfyrddin  yn bennaf fel man i aros  ar eu taith ac i adfer eu nerth, ond hwyrach bod rhai adar hefyd yn treulio’r gaeaf yma.

Nid yn unig y gwarchodir y fôr-hwyaden ddu, fel rhywogaeth fudol o dan Gyfarwyddeb Adar yr UE, mae’r adar hyn hefyd wedi eu rhestru i’w hamddiffyn yng Nghonfensiwn Bern ac  yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 y DU, ac y maent yn un o rywogaethau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU ( i gael gwybodaeth am CGB môr-hwyaid y DU, cliciwch yma).   Mae taflen ddata’r DU ar gyfer Bae Caerfyrddin ar gael  yma.

Yn y DU cydnabyddir bod y fôr-hwyaden ddu  yn rhywogaeth sydd dan fygythiad yn genedlaethol.  Mae dros 50% o’r boblogaeth nad yw’n nythu i’w cael ar ddeg safle, ac ystyrir mai Bae Caerfyrddin yw’r pwysicaf ohonynt, lle y cofnodir niferoedd brig o 17,000 – 22,000 o adar.

Effeithiwyd yn enbyd ar y boblogaeth o ganlyniad i’r gorlifiad olew o’r Sea Empress ym 1996.  Amcangyfrifwyd bod 4,700 o’r môr-hwyaid wedi eu lladd (canfuwyd tua 3,600 o gyrff a thybiwyd y bu farw o leiaf 1,100 yn ychwanegol) naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy lygru eu hadnoddau bwyd a gwenwyno’r adar.

Yn ystod y blynyddoedd dilynol edrychwyd yn ofalus iawn ar y niferoedd a ddaeth i aeafu.   Niferoedd bach iawn oedd yn bresennol ym Mae Caerfyrddin yn ystod y ddau aeaf ar ôl y gorlifiad, a ddisgynnodd i gyfartaledd o 1,800 ac uchafswm o 2,900 ym 1997-98. Ond mae nifer yn cynyddu’n gyflym y gaeaf canlynol ac cyrraedd uchafbwynt yn y pen draw ar gyfartaledd o 19,700 ac uchafswm o 22,300 yn 2002-03, ac wedi hynny roedd tuedd ar i lawr a barhaodd tan 2007-08.  Ers hynny, mae’r niferoedd wedi codi a gostwng yn sylweddol – gyda cyfrif uchel iawn mewn gaeafau niferoedd 2009-10 a 2012-13, ond yn isel yn 2010-11.

Yn ystod yr un cyfnod cynhaliwyd llawer o arolygon a gwaith ymchwil i er mwyn dod o hyd i gynefinoedd a mannau bwydo pwysicaf y môr-hwyaid  ym Mae Caerfyrddin.  Mae’r môr-hwyaid hyn yn bwydo trwy blymio am bysgod cregyn ac infertebratau eraill mewn gwaddodion tywodlyd, yn bennaf mewn dyfroedd sy’n llai na deng metr o ddyfnder.  Y dwyseddau uchel o ysglyfaeth o’r fath, hawdd i’w gyrraedd  mewn dŵr bas, sy’n gwneud Bae Caerfyrddin yn safle mor bwysig ar gyfer ymfudo a gaeafu i’r fôr-hwyaden ddu.

Mae dosbarthiad y môr-hwyaid yn y Bae ar adeg benodol yn adlewyrchu dwysedd yr adnoddau bwyd, sydd hwythau yn amrywio yn fawr o flwyddyn i flwyddyn, yn ôl y cyflenwad o rywogaethau ysglyfaeth a’u lleoliad.  Y mannau bwydo mwyaf cyson yw’r rhannau gyferbyn ag Amroth a thraethau Penbre, ac weithiau Bae Rhosili.