Yr egwyddorion rheoli

Cytunodd y Grŵp Awdurdodau Perthnasol i seilio’r cynllun rheoli ar yr egwyddorion canlynol:

Statws cadwraeth ffafriol: Dylai pob gweithred rheoli gyfrannu at gyrraedd a chynnal statws cadwraeth ffafriol y nodweddion ACA.

Cynaliadwyedd: dylai’r cynllun rheoli ymdrechu i sicrhau y cynhelir y gweithgareddau mewn ffyrdd cynaliadwy a  fydd yn integreiddio’r amcanion cymdeithasol ac economaidd gyda’r amcanion cadwraeth ar gyfer y safle (NB nid o chwith).  Bydd y cynllun rheoli yn amcanu i:

  • ddarparu fframwaith a fydd yn galluogi cynnal gweithgareddau mewn ffyrdd cynaliadwy,
  • hwyluso a goleuo’r gwaith o integreiddio’r amcanion cymdeithasol ac economaidd â’r amcanion cadwraeth ar gyfer y safle.

Trwy wneud hyn, bydd y cynllun o fudd i reoli cadwraeth y safle ac y cyfrannu hefyd i gynaliadwyedd amgylcheddol unrhyw ddatblygiadau.

Bydd yr egwyddor cynaliadwyedd yn cwmpasu gweithgareddau a gweithrediadau’r GAP ei hunan, a fydd yn ceisio lleihau ei ôl-troed amgylcheddol i’r eithaf wrth gyflawni ei swyddogaethau. Gyda hyn mewn golwg, er enghraifft, bydd rhagdybiaeth o blaid dosbarthu gwybodaeth yn electronig pan fod modd, yn hytrach nag ar bapur.

Rhagofal: dylid edrych ar bob ffynhonnell bosibl o risg i nodweddion yr ACA. Lle y canfyddir risg, ni fanteisir unrhyw ddiffyg sicrwydd gwyddonol llawn yn rheswm dros ohirio’r gwaith o ganfod a chyflwyno mesurau rheoli sy’n debygol o fod yn gost-effeithiol trwy atal difrod.

Asesu’r gofynion rheoli: seilir y gwaith o ganfod y gofynion rheoli ar restr gyflawn o’r gweithredoedd rheoli a fydd yn angenrheidiol er mwyn diogelu a chynnal y statws cadwraeth ffafriol.

Gweithredoedd rheoli priodol ac addas i’w pwrpas sydd:

  • yn integreiddio â chynlluniau a mentrau blaenorol ac yn adeiladu arnynt pan fo angen, heb ddyblygu ymdrech;
  • pan fo modd, yn benodol, mesuradwy, cyraeddadwy a realistig, gydag amserlen benodedig;
  • –  yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael, a phan fo’r cyngor hwnnw’n annigonol, i’w hystyried yng ngoleuni’r egwyddor ragofalus;
  • –  yn cyflwyno rheoleiddio ychwanegol  (e.e. is-ddeddfau newydd) pan nad oes unrhyw ddull effeithiol arall ar gael.

Partneriaeth: â phob rhanddeiliad.

Addysg a chodi ymwybyddiaeth.

Monitro ac adolygu: monitro ac adolygu effeithiolrwydd y cynllun yn rheolaidd.